Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2018
Amser:
09.31 -
10.36
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Tystion: |
Michelle Brown AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Dewisodd Jayne Bryant AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fod yn absennol o'r cyfarfod cyfan am fod y gŵyn a gyflwynwyd ar ran Grŵp Llafur y Cynulliad yn ei chynnwys hi.
1.2 Paul Davies AC a gadeiriodd y cyfarfod, yn dilyn cytundeb y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2016 i'w ethol yn Gadeirydd dros dro.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2.1 Trafododd yr Aelodau Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i), gan gymryd tystiolaeth gan yr Aelod dan sylw a'i chynghorydd.
3.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth ynghyd ag Adroddiad y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i) a chytuno ar benderfyniad ynglŷn â'r mater hwn.
3.2 Bydd y Clercod yn llunio adroddiad i'r Aelodau ei ystyried.